Home to School Transport provision

As you are aware the Council agreed to carry out a consultation to review its current Home to School Transport provision for children and young people in Rhondda Cynon Taf. The proposal sets out a new Home to School Transport Policy, which maintains certain discretionary transport provision and provide mainstream English, Welsh and Faith primary school, secondary school and college transport in line with relevant statutory distance criteria. Any new policy would be implemented from the start of the 2025/2026 academic year.

The consultation originally ran from 27th November 2023 until 5pm 8th January 2024.

The Council recognises the significance of the proposal for pupils who use and will use home to school transport now or in the future, and the extended consultation provides a further opportunity for those potentially impacted to take part in the consultation. The Council has therefore taken the decision to extend the consultation for a further three week period running from Thursday 18th January 2024 until 5pm Thursday 8th February 2024.

The details of the proposal and the opportunity to respond to the consultation can be found at: Consultation on the Council’s Home to School Transport Policy | Rhondda Cynon Taf County Borough Council (rctcbc.gov.uk)

There is no need for anyone who has previously taken part in this consultation to submit a further response unless they wish to do so.

Kind Regards

Stephen Williams

Director for Highways, Streetcare and Transportation Services

 

Fel rydych chi’n gwybod, cytunodd y Cyngor i gynnal ymgynghoriad i adolygu ei ddarpariaeth Cludo Disgyblion o’r Cartref i’r Ysgol ar gyfer plant a phobl ifainc yn Rhondda Cynon Taf. Mae’r cynnig yn amlinellu Polisi Cludo Disgyblion o’r Cartref i’r Ysgol newydd sy’n parhau â rhan o’r ddarpariaeth ddewisol ac yn darparu cludiant i ysgolion cynradd, uwchradd a cholegau, boed y rheiny’n ysgolion cyfrwng Cymraeg, cyfrwng Saesneg neu’n Ysgolion Ffydd, yn unol â’r meini prawf statudol o ran pellter. Byddai unrhyw bolisi newydd yn cael ei roi ar waith o ddechrau blwyddyn academaidd 2025/2026.

Roedd yr ymgynghoriad yn wreiddiol ar agor rhwng 27 Tachwedd 2023 a 5pm ar 8 Ionawr 2024.

Mae’r Cyngor yn cydnabod arwyddocâd y cynnig i ddisgyblion sy’n defnyddio cludiant o’r cartref i’r ysgol ar hyn o bryd, ac a fydd yn ei ddefnyddio yn y dyfodol. Mae ymgynghoriad estynedig yn rhoi cyfle pellach i’r rhai a fydd o bosibl yn cael eu heffeithio gymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Felly, mae’r Cyngor wedi penderfynu ymestyn yr ymgynghoriad am gyfnod pellach o dair wythnos rhwng dydd Iau 18 Ionawr 2024 a 5pm ar ddydd Iau 8 Chwefror 2024.

Mae manylion y cynnig a’r cyfle i ymateb i’r ymgynghoriad i’w gweld yma: Ymgynghoriad ar Bolisi Cludo Disgyblion o’r Cartref i’r Ysgol y Cyngor | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (rctcbc.gov.uk)

Does dim angen i unrhyw un sydd wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad yma’n barod gyflwyno ymateb ychwanegol oni bai eu bod nhw’n dymuno gwneud hynny.

Cofion Cynnes

Stephen Williams

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Priffyrdd, Gofal y Strydoedd a Thrafnidiaeth